Tuesday 8 October 2013

COFIO SIONYN


COFIO SIONYN

 

Y diweddar Michael Jones (Meic, Felinhen) oedd yn byw mewn tŷ pâr y drws nesaf i mi  ym Mraichtalog, Tregarth, erstalwm. Roedd ef ychydig bach yn hŷn na mi a bu ei lystad farw ar ddiwrnod Nadolig yn y 1950au cynnar. Wedi'r trist ddigwyddiad hwnnw fe symudodd Michael i Rhiwlas i fyw gyda'i fam wen a daeth teulu arall i fyw y drws nesaf i mi wedyn.

" Greigfa Farm " oedd enw cartref Michael ym Mraichtalog ond tyddyn ydoedd y ' fferm ' honno mewn gwirionedd ac roedd ei ychydig dir yn amgylchynu fy hen gartref. Enw hwnnw oedd " Greigfa Cottage ".

Gyrrwr bws Crosville a nabodid gan bawb fel  'Sionyn'  a'i wraig a hannai o rywle ym mherfeddion Môn ynghyd â'u dau blentyn ac un bonesig ifanc arall oedd tenantiaid newydd " Greigfa Farm ".

Yn ogystal â bod yn yrrwr bws roedd Sionyn yn amaethwr medrus a hoffwn ei wylio'n  trin a diwyllio tir ei fferm cyn amled ag y medrwn.

Un dydd, wedi i Sionyn godi aradr olwyn o'i orweddle ar fuarth ei fferm fe'i gwelais ef yn bachu clust yr offeryn hwnnw wrth harnais gwedd ddwbl o geffylau gwaith ac wedyn fe'i dilynais i gae bychan lle gwelais ef o un o'r talarau'n aredig gwndwn tewgroen nad oedd ei wyneb wedi cael ei godi ers hydion cyn hynny. Roedd y mymryn lleiaf o oriwaered ar y cae ond gan nad oedd digon o lethr ynddo, ei aredig ar draws y llechwedd yn hytrach nag i fyny ac i lawr yn ôl arfer gwlad y cyfnod wnaeth Sionyn.

Châi Sionyn mo'i boeni gan fân gnwciau a phantiau yn y tir tra fyddai'r wedd yn symud ac, o'i gychwynfan i'w gyrchnod, ni byddai neb yn ardal Tregarth deg a dynnai unionach cwys nag ef. Ni fyddai penelinoedd na malciau yn ei gwysi a byddai'n cwyso'n gyson ac yn gigog heb godi pridd newynllyd i'r wyneb wrth hwylio'i aradr.

Byddai'n dyner gyda'i feirch ac ni fyddai byth yn eu delffu'n annynol mewn nwydau drwg gan beri iddynt fynd yn ddilywodraeth gan fraw a dychryn a chan hynny byddai'i garnoliaid gweryrog yn cyd-gamu'n ufudd fel milwyr yn y wedd o dalar i dalar heb wegian yr un iot.

Tra byddai Sionyn yn edmygu ceinder ei waith o ben bob cwys, edrychwn innau ymlaen at gael clywed sŵn y cwlltwr yn rhwygo'r tir unwaith yn rhagor a chael gweld y ceffylau yn y wedd yn pwyso ar eu coleri wrth wneud eu trymwaith. Mae gennyf gof byw o hyd o su'r cwysi'n cael ei troi gan asgell bridd yr aradr fel symudai Sionyn y wedd yn ei blaen wedi bob hoe fach a chlywed sawr praff y pridd a ddeuai i'r wyneb yn llenwi fy ffroenau.

Ymhen amser priodol wedi'r cwyso gwelais Sionyn yn llyfnu'i âr gydag og bigau. Gyda honno roedd yn cau ceg y cwysi a malu'r clapiau pridd oedd ynddynt gan wneud yr âr yn wely addas ar gyfer derbyn hadau. Cael ei thynnu ar hyd y cwysi yn hytrach nag ar eu traws gâi'r og ganddo.

Gyda'i ddwy law y byddai Sionyn yn hau a hynny o gyfnas o'i flaen a fyddai ynghrog wrth ei wegil ar ffurf gwarrog. Roedd yn heuwr dan gamp. Byddai'n hau ei hadau'n wastad a heb fynd dros yr un lle ddwywaith na gadael rhimynnau o'r cae heb had. Wedi hynny byddai'n defnyddio rowler ysgafn a lusgid gan un o'i geffylau i wasgu'r had yn dyner i bridd yr âr.

Gyda phladur y byddai Sionyn yn lladd ei weirgloddiau.  Ymhen rhyw dridiau wedyn fe ddeuai pawb oedd yn byw ym Mraichtalog at ei gilydd i droi'r gwaneifiau iddo fel y câi'r haul a'r gwynt sychu'r gwair ynddynt yn llwyr cyn iddynt gael eu cywain gyda throl a cheffyl i ddiddosrwydd sgubor ar gwr ei fferm ar ddiwrnod cario gwair. Caem ni blant hwyl mawr yn chwarae yn y gwair adeg y cynaefau gwair hynny ym Mraichtalog erstalwm.

Ysywaeth, y mae Sionyn  -  coffa da amdano!  -   bellach yn ei fedd a mae holl amgylchiadau bywyd gwledig gynt o'r math a ddisgrifiais uchod wedi newid yn llwyr ac yn fy marn i mae rhai agweddau ar y newidiadau hynny'n golled mawr i unrhyw  gymdeithas wâr.

 

 

 

Tuesday 1 October 2013

Melys Atgof


Chwarelgoch oedd enw'r capel y mynychwn y moddion ynddo ddwywaith bob Sul yn ystod fy maboed. Mae wedi'i leoli ar lain o dir y tu ôl i blanhigfa goed Parc Dob rhwng Sling a gwaelod Tregarth. Capel bychan, syml a diaddurn ydoedd ac fe ddechreuwyd ei adeiladu yn y flwyddyn 1877 ac fe agorwyd ei ddrysau i addolwyr yn 1878. Roedd yn perthyn i'r Annibynwyr.

Doedd gan eglwys Chwarelgoch ddim gweinidog cyflogedig rhwng y dyddiau y dechreuais i fynychu'r moddion ynddi oddeutu 1950 a'r adeg y caeodd y capel ei ddrysau yn 80au'r ganrif ddiwethaf. Wedi dweud hynny, fe hawliau'r eglwys wasanaeth y diweddar Barchedig Ivor Wynne fel ei bugail yn ystod y cyfnod dan sylw.

Fe aned yr ymadawedig ŵr hwnnw a enwais ym mrawddeg olaf y paragraff blaenorol ym Mhenybryn, Bethesda, ar y 10fed. o Ebrill 1903 ac fe'i maged ym Mraichmelyn nes oedd yn 14 oed. Symudodd wedyn i Gerlan lle bu'n byw tan iddo gael ei ordeinio'n weinidog yn Ninas Mawddwy yn y flwyddyn 1928.

Gŵr  meingorff, glandeg yr olwg, gyda diniweidrwydd yn ei drem oedd y diweddar Barchedig Ivor Wynne. Roedd ychydig dros bump troedfedd o ran ei daldra ac roedd ganddo wallt browngoch golau ar ei ben a thrwy lygad plentyn, fe sylwais fod tuedd ynddo i snwffian yn drwm o  bryd i'w gilydd drwy un o'i ffroenau'n a hynny'n hollol ddiarwybod iddo'i hun, fe amcanaf erbyn hyn.

O ran cymeriad, roedd y diweddar Ivor Wynne cyn hyfwyned â theg hafau y 1960au. Roedd ganddo galon wastad, roedd yn garedig ac roedd yn gysurwr diddchell. Mewn swm, fe ddangosai yn ei holl ymddygiadau ei fod yn Gristion iach.

Byddai oedfaon Chwarelgoch yn dechrau gydag emyn a ddilynid gyda darlleniad o frenin holl lyfrau'r byd ac wedi'r darlleniad hwnnw byddid yn canu emyn arall a ddilynid gan weddi.

Ni fyddai Ivor Wynne yn  diflasu ar weddïo a byddai'i weddïau bob amser o wead cartref ac yn gyflawn o wreiddioldeb gwerinwr lleol Dyffryn Ogwen. Nodweddid hwynt gan daerni dwys. Ynddynt mewn iaith bur fel gwlith y borau byddai'n parch gyflwyno'i ddeisyfiadau ar  Dduw i faddau pechodau'r rheiny ym mrenhiniaeth y saint y byddai'n eirioli ar eu rhan a hefyd gofynnai i'r Nefol Dad gysuro pawb oedd dan swrn gormes a'u gochel rhag profedigaeth a drygioni.

Wedi i'r diweddar Barchedig ddarfod gweddïo, byddai un o'r diaconiaid yn darllen y cyhoeddiadau ac wedi hynny byddid yn gwneud y casgliad cyn canu'r trydydd emyn yn nhrefn y gwasanaeth ac yna fe draddodai'r gweinidog ei bregeth.

Ni fyddai'r  diweddar was Crist yn un am bendilio o un eithaf i'r llall yn ei bregethau. Ni cheid twymdra llethol y trofannau ynddynt mwy nag iasoer rhynllyd y pegynnau. Yn hytrach, fe deimlai pawb a'i gwrandawai fod yr awelon a ddeuai arnynt o'i bregethau'n rhai tyner ac adfywiol. Deallai pawb hwynt ac ystyriai'i wrandawyr mai un difyr i wrando arno oedd yr hen sant.

Nid Mammongarwyr oedd yn mynychu'r moddion yn Chwarelgoch ond addolwyr o'r un gyffes â'r gweinidog ei hun. Chwarelwyr gyda swrn gormes arnynt oeddent gan fwyaf.

Byddwn yn mynychu'r moddion yn Chwarelgoch boed hinddrwg neu hindda am yn o agos i ddeng mlynedd o fy mhedwerydd penblwydd ymlaen. Am gyfnod, awn i'r capel o leiaf ddwywaith bob Sul  -  dan glaer-olau'r haul ar brynhawn o haf a dan sodlau'r sêr a mwyn olau'r lloer ar noson o aeaf.  Yno, yn yr ysgol Sul, cefais fy anos i ochel y gau a charu'r gwir, dysgu yr wyddor Gymraeg ac wedyn dysgu darllen geiriau syml.

Cofiaf yr holl addolwyr a fynychai'r moddion yn Chwarelgoch. Yn eu plith yr oedd y diaconiaid  Owen Owens, Allt George, y siriol Hugh Hughes, Sling,  Alwyn Thomas, Penyffriddoedd, a godwyd yn flaenor yn ei ugeiniau cynnar, Sam Davies, ceidwad olaf caban signalau'r lein bach yn Hen Dyrpeg, Tregarth, a dau berthynas iddo o'r enw Huw Williams ac Amwel Davies. Evan Williams tŷ capel oedd blaenor y gân. Byddai ei lais canu ef yn llenwi'r holl gapel.

Codwyd un yn unig i'r weinidogaeth yn y cyfnod dan sylw ac enw'r gŵr hwnnw oedd Dewi Morris o Waen y Pandy. Bu ef yn weinidog am gyfnod ar Eglwys Gynulleidfaol Salem, Porthmadog.  Ei fam ef oedd yn canu'r piano yn Chwarelgoch. Byddai rhywbeth mawr o'i le os byddai hi'n absennol o'r moddion a'r gynulleidfa'n gorfod canu emyn heb ymgeledd offeryn cerdd.

Er nad wyf fi wedi tywyllu drws unrhyw le o addoliad ers degawdau bellach, fedra'i ddim ymysgwyd oddi wrth ddylanwad Chwarelgoch a'i saint arnaf. Ysywaeth, mae'r rhan fwyaf o'r rheiny erbyn hyn yn anghyrraeddadwy yn nghaethiwed angau. Coffa da amdanynt oll. Mae fy nyled yn fawr iddynt.