Cyfarchion, bob un ohonoch a chroeso i'm gwefan ! Bydd y mwyaf
stilgar yn eich plith yn sicr o ofyn pam blog arall yn Gymraeg. Y gwir ydyw fy
mod wedi bwriadu dechrau blogio ers tro byd ond bûm yn llaesu dwylo ynghylch y
mater tan rŵan. Yr hyn a'm symbylodd i ddechrau'r blog ar hyn o bryd yw
anfoesgarwch blogiwr arall yn Gymraeg ar y we tuag ataf. Enw'r blogiwr hwnnw yw
Dylan Llŷr ac enw'i flog ef yw " Anffyddiaeth " . Bûm yn postio
sylwadau o dro i dro ers tro byd ar ambell flogiad o'i eiddo ar y wefan honno.
Gŵr nad yw'n credu yn Nuw yw perchennog y blog, wrth reswm, a chan hynny mae'n
gas ganddo fy mod wedi difwyno'i flog gydag ambell ddyfyniad o'r Beibl mewn
rhai o'm sylwadau ar ei flog. Mewn pump
sylw ar ei flogiad diweddar ar ' Chelsea Manning ' dyfynais o'r Beibl
deirgwaith ac, o ganlyniad i hynny, mae wedi datgan ar goedd ar ei wefan wrthyf
ei fod yn bwriadu dileu pob sylw pellach a wnaf ar ei flog. Dyna sut mae pobl
sy'n moedro'i pennau gyda dysgeidiaeth y goddefgarwch newydd, megis Dylan, yn
ymddwyn. Nodwedd dywyll ar y ddysgeidiaeth newydd hon yw fod pawb sy'n ei
harddel yn ceisio distewi'r rheiny sydd gan farn wahanol iddynt. Ffurf newydd ar
Natsïaeth yw hyn. Mae calonnau'r fath bobl cyn llidioced â'r Hydref yn y coed
a'u geiriau cyn gased â phigau drain ! Os nad ydych yn fy nghoelio darllenwch,
er enghraifft ymatebion Dylan Llŷr i'm
sylwadau ar ei flogiad ar ' Chelsea Manning ' ar flog " Anffyddiaeth ".
Sunday, 15 September 2013
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
1 comment:
Post a Comment