Tuesday 8 October 2013

COFIO SIONYN


COFIO SIONYN

 

Y diweddar Michael Jones (Meic, Felinhen) oedd yn byw mewn tŷ pâr y drws nesaf i mi  ym Mraichtalog, Tregarth, erstalwm. Roedd ef ychydig bach yn hŷn na mi a bu ei lystad farw ar ddiwrnod Nadolig yn y 1950au cynnar. Wedi'r trist ddigwyddiad hwnnw fe symudodd Michael i Rhiwlas i fyw gyda'i fam wen a daeth teulu arall i fyw y drws nesaf i mi wedyn.

" Greigfa Farm " oedd enw cartref Michael ym Mraichtalog ond tyddyn ydoedd y ' fferm ' honno mewn gwirionedd ac roedd ei ychydig dir yn amgylchynu fy hen gartref. Enw hwnnw oedd " Greigfa Cottage ".

Gyrrwr bws Crosville a nabodid gan bawb fel  'Sionyn'  a'i wraig a hannai o rywle ym mherfeddion Môn ynghyd â'u dau blentyn ac un bonesig ifanc arall oedd tenantiaid newydd " Greigfa Farm ".

Yn ogystal â bod yn yrrwr bws roedd Sionyn yn amaethwr medrus a hoffwn ei wylio'n  trin a diwyllio tir ei fferm cyn amled ag y medrwn.

Un dydd, wedi i Sionyn godi aradr olwyn o'i orweddle ar fuarth ei fferm fe'i gwelais ef yn bachu clust yr offeryn hwnnw wrth harnais gwedd ddwbl o geffylau gwaith ac wedyn fe'i dilynais i gae bychan lle gwelais ef o un o'r talarau'n aredig gwndwn tewgroen nad oedd ei wyneb wedi cael ei godi ers hydion cyn hynny. Roedd y mymryn lleiaf o oriwaered ar y cae ond gan nad oedd digon o lethr ynddo, ei aredig ar draws y llechwedd yn hytrach nag i fyny ac i lawr yn ôl arfer gwlad y cyfnod wnaeth Sionyn.

Châi Sionyn mo'i boeni gan fân gnwciau a phantiau yn y tir tra fyddai'r wedd yn symud ac, o'i gychwynfan i'w gyrchnod, ni byddai neb yn ardal Tregarth deg a dynnai unionach cwys nag ef. Ni fyddai penelinoedd na malciau yn ei gwysi a byddai'n cwyso'n gyson ac yn gigog heb godi pridd newynllyd i'r wyneb wrth hwylio'i aradr.

Byddai'n dyner gyda'i feirch ac ni fyddai byth yn eu delffu'n annynol mewn nwydau drwg gan beri iddynt fynd yn ddilywodraeth gan fraw a dychryn a chan hynny byddai'i garnoliaid gweryrog yn cyd-gamu'n ufudd fel milwyr yn y wedd o dalar i dalar heb wegian yr un iot.

Tra byddai Sionyn yn edmygu ceinder ei waith o ben bob cwys, edrychwn innau ymlaen at gael clywed sŵn y cwlltwr yn rhwygo'r tir unwaith yn rhagor a chael gweld y ceffylau yn y wedd yn pwyso ar eu coleri wrth wneud eu trymwaith. Mae gennyf gof byw o hyd o su'r cwysi'n cael ei troi gan asgell bridd yr aradr fel symudai Sionyn y wedd yn ei blaen wedi bob hoe fach a chlywed sawr praff y pridd a ddeuai i'r wyneb yn llenwi fy ffroenau.

Ymhen amser priodol wedi'r cwyso gwelais Sionyn yn llyfnu'i âr gydag og bigau. Gyda honno roedd yn cau ceg y cwysi a malu'r clapiau pridd oedd ynddynt gan wneud yr âr yn wely addas ar gyfer derbyn hadau. Cael ei thynnu ar hyd y cwysi yn hytrach nag ar eu traws gâi'r og ganddo.

Gyda'i ddwy law y byddai Sionyn yn hau a hynny o gyfnas o'i flaen a fyddai ynghrog wrth ei wegil ar ffurf gwarrog. Roedd yn heuwr dan gamp. Byddai'n hau ei hadau'n wastad a heb fynd dros yr un lle ddwywaith na gadael rhimynnau o'r cae heb had. Wedi hynny byddai'n defnyddio rowler ysgafn a lusgid gan un o'i geffylau i wasgu'r had yn dyner i bridd yr âr.

Gyda phladur y byddai Sionyn yn lladd ei weirgloddiau.  Ymhen rhyw dridiau wedyn fe ddeuai pawb oedd yn byw ym Mraichtalog at ei gilydd i droi'r gwaneifiau iddo fel y câi'r haul a'r gwynt sychu'r gwair ynddynt yn llwyr cyn iddynt gael eu cywain gyda throl a cheffyl i ddiddosrwydd sgubor ar gwr ei fferm ar ddiwrnod cario gwair. Caem ni blant hwyl mawr yn chwarae yn y gwair adeg y cynaefau gwair hynny ym Mraichtalog erstalwm.

Ysywaeth, y mae Sionyn  -  coffa da amdano!  -   bellach yn ei fedd a mae holl amgylchiadau bywyd gwledig gynt o'r math a ddisgrifiais uchod wedi newid yn llwyr ac yn fy marn i mae rhai agweddau ar y newidiadau hynny'n golled mawr i unrhyw  gymdeithas wâr.

 

 

 

No comments: