Chwarelgoch oedd enw'r capel y mynychwn y
moddion ynddo ddwywaith bob Sul yn ystod fy maboed. Mae wedi'i leoli ar lain o
dir y tu ôl i blanhigfa goed Parc Dob rhwng Sling a gwaelod Tregarth. Capel
bychan, syml a diaddurn ydoedd ac fe ddechreuwyd ei adeiladu yn y flwyddyn 1877
ac fe agorwyd ei ddrysau i addolwyr yn 1878. Roedd yn perthyn i'r Annibynwyr.
Doedd gan eglwys Chwarelgoch ddim gweinidog
cyflogedig rhwng y dyddiau y dechreuais i fynychu'r moddion ynddi oddeutu 1950
a'r adeg y caeodd y capel ei ddrysau yn 80au'r ganrif ddiwethaf. Wedi dweud
hynny, fe hawliau'r eglwys wasanaeth y diweddar Barchedig Ivor Wynne fel ei
bugail yn ystod y cyfnod dan sylw.
Fe aned yr ymadawedig ŵr hwnnw a enwais ym
mrawddeg olaf y paragraff blaenorol ym Mhenybryn, Bethesda, ar y 10fed. o
Ebrill 1903 ac fe'i maged ym Mraichmelyn nes oedd yn 14 oed. Symudodd wedyn i
Gerlan lle bu'n byw tan iddo gael ei ordeinio'n weinidog yn Ninas Mawddwy yn y
flwyddyn 1928.
Gŵr
meingorff, glandeg yr olwg, gyda diniweidrwydd yn ei drem oedd y
diweddar Barchedig Ivor Wynne. Roedd ychydig dros bump troedfedd o ran ei
daldra ac roedd ganddo wallt browngoch golau ar ei ben a thrwy lygad plentyn,
fe sylwais fod tuedd ynddo i snwffian yn drwm o bryd i'w gilydd drwy un o'i ffroenau'n a hynny'n
hollol ddiarwybod iddo'i hun, fe amcanaf erbyn hyn.
O ran cymeriad, roedd y diweddar Ivor Wynne
cyn hyfwyned â theg hafau y 1960au. Roedd ganddo galon wastad, roedd yn garedig
ac roedd yn gysurwr diddchell. Mewn swm, fe ddangosai yn ei holl ymddygiadau ei
fod yn Gristion iach.
Byddai oedfaon Chwarelgoch yn dechrau gydag
emyn a ddilynid gyda darlleniad o frenin holl lyfrau'r byd ac wedi'r darlleniad
hwnnw byddid yn canu emyn arall a ddilynid gan weddi.
Ni fyddai Ivor Wynne yn diflasu ar weddïo a byddai'i weddïau bob amser
o wead cartref ac yn gyflawn o wreiddioldeb gwerinwr lleol Dyffryn Ogwen. Nodweddid
hwynt gan daerni dwys. Ynddynt mewn iaith bur fel gwlith y borau byddai'n parch
gyflwyno'i ddeisyfiadau ar Dduw i faddau
pechodau'r rheiny ym mrenhiniaeth y saint y byddai'n eirioli ar eu rhan a hefyd
gofynnai i'r Nefol Dad gysuro pawb oedd dan swrn gormes a'u gochel rhag
profedigaeth a drygioni.
Wedi i'r diweddar Barchedig ddarfod gweddïo,
byddai un o'r diaconiaid yn darllen y cyhoeddiadau ac wedi hynny byddid yn
gwneud y casgliad cyn canu'r trydydd emyn yn nhrefn y gwasanaeth ac yna fe
draddodai'r gweinidog ei bregeth.
Ni fyddai'r diweddar was Crist yn un am bendilio o un
eithaf i'r llall yn ei bregethau. Ni cheid twymdra llethol y trofannau ynddynt
mwy nag iasoer rhynllyd y pegynnau. Yn hytrach, fe deimlai pawb a'i gwrandawai
fod yr awelon a ddeuai arnynt o'i bregethau'n rhai tyner ac adfywiol. Deallai
pawb hwynt ac ystyriai'i wrandawyr mai un difyr i wrando arno oedd yr hen sant.
Nid Mammongarwyr oedd yn mynychu'r moddion yn
Chwarelgoch ond addolwyr o'r un gyffes â'r gweinidog ei hun. Chwarelwyr gyda swrn
gormes arnynt oeddent gan fwyaf.
Byddwn yn mynychu'r moddion yn Chwarelgoch
boed hinddrwg neu hindda am yn o agos i ddeng mlynedd o fy mhedwerydd penblwydd
ymlaen. Am gyfnod, awn i'r capel o leiaf ddwywaith bob Sul - dan
glaer-olau'r haul ar brynhawn o haf a dan sodlau'r sêr a mwyn olau'r lloer ar
noson o aeaf. Yno, yn yr ysgol Sul,
cefais fy anos i ochel y gau a charu'r gwir, dysgu yr wyddor Gymraeg ac wedyn dysgu
darllen geiriau syml.
Cofiaf yr holl addolwyr a fynychai'r moddion
yn Chwarelgoch. Yn eu plith yr oedd y diaconiaid Owen Owens, Allt George, y siriol Hugh
Hughes, Sling, Alwyn Thomas, Penyffriddoedd,
a godwyd yn flaenor yn ei ugeiniau cynnar, Sam Davies, ceidwad olaf caban
signalau'r lein bach yn Hen Dyrpeg, Tregarth, a dau berthynas iddo o'r enw Huw
Williams ac Amwel Davies. Evan Williams tŷ capel oedd blaenor y gân. Byddai ei
lais canu ef yn llenwi'r holl gapel.
Codwyd un yn unig i'r weinidogaeth yn y cyfnod
dan sylw ac enw'r gŵr hwnnw oedd Dewi Morris o Waen y Pandy. Bu ef yn weinidog
am gyfnod ar Eglwys Gynulleidfaol Salem, Porthmadog. Ei fam ef oedd yn canu'r piano yn Chwarelgoch.
Byddai rhywbeth mawr o'i le os byddai hi'n absennol o'r moddion a'r
gynulleidfa'n gorfod canu emyn heb ymgeledd offeryn cerdd.
Er nad wyf fi wedi tywyllu drws unrhyw le o
addoliad ers degawdau bellach, fedra'i ddim ymysgwyd oddi wrth ddylanwad
Chwarelgoch a'i saint arnaf. Ysywaeth, mae'r rhan fwyaf o'r rheiny erbyn hyn yn
anghyrraeddadwy yn nghaethiwed angau. Coffa da amdanynt oll. Mae fy nyled yn
fawr iddynt.
No comments:
Post a Comment